|
||
|
|
||
|
||
|
Mae menter yr heddlu yn darparu cefnogaeth ychwanegol i ddioddefwyr trais domestig |
||
Mae swyddogion yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot wrthi'n ymwneud â menter beilot newydd sy'n gweithio i sicrhau diogelwch dioddefwyr troseddwyr y rhoddwyd Gorchmynion Atal Trais Domestig (DVPOs) iddynt gan y llysoedd. Mae swyddogion yn ymweld â dioddefwyr ac yn cynnal patrolau wedi'u targedu i sefydlu a yw telerau'r DVPO wedi'u torri. Ers cychwyn y cynllun peilot ar 1 Mehefin, mae swyddogion wedi ymweld â dioddefwyr sy'n cael eu hamddiffyn gan y gorchmynion hyn dros 50 o weithiau, gan arwain at nifer o ddioddefwyr yn dod o hyd i'r hyder i ddarparu datganiadau mewn perthynas â'u hachosion a phump o arestiadau am dorri rheolau gan droseddwyr. Dywedodd yr Arolygydd Carys Thomas: “Mae’r troseddwyr hyn wedi cyflawni rhai o’r troseddau trais domestig mwyaf erchyll rydyn ni wedi’u gweld yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, a byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein dioddefwyr yn ddiogel rhag y troseddwyr hyn, gan eu helpu i dorri’n rhydd o’u cam-drin ac o’r diwedd symud ymlaen â’u bywydau.” Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Stephen Jones, Comander yr Uned Rheoli Sylfaenol: “Ni ddylai neb deimlo’n anniogel yn eu cartref eu hunain. Dim ond lle mae tystiolaeth glir o ymddygiad treisgar a chamdriniol y cyhoeddir y gorchmynion hyn ac mae’n gwbl gywir a phriodol ein bod yn cefnogi’r rhai sydd wedi bod yn ddigon dewr i ddod ymlaen gyda gorfodi cadarn. Byddwn yn mynd ar drywydd y troseddwyr hyn yn barhaus, ac rydym eisoes wedi gweld dedfryd o 28 diwrnod yn y carchar yn cael ei gosod am dorri’r gorchymyn.
Ymddygiad rheoli, bwlio, bygythiol neu dreisgar yw cam-drin domestig. Mae'n digwydd rhwng pobl 16 oed a throsodd a'u partneriaid, cyn-bartneriaid neu aelodau o'r teulu. Yn aml, gall hyn fod yn batrwm o gam-drin, ond dim ond unwaith y mae angen i'r cam-drin ddigwydd er mwyn i ni gymryd camau pendant. Gall ddigwydd i unrhyw un. Does dim ots beth yw eich ethnigrwydd, rhyw, rhywioldeb na chefndir cymdeithasol. Gall cam-drin domestig gymryd sawl ffurf. Nid yw bob amser yn cynnwys trais corfforol. Os nad yw rhywbeth yn teimlo'n iawn, gallwch ei riportio. Os nad ydych chi'n barod i siarad â'r heddlu, gallwch gysylltu â sefydliadau cymorth a fydd yn eich helpu, drwy ymweld â'n tudalen sefydliadau cymorth . Os oes gennych bryder am ffrind neu aelod o'r teulu, gallwch roi gwybod i ni drwy 101 neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111. Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
| ||
Reply to this message | ||
|
|








